P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynnig Cymdeithas Gŵyr i ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr yn cael ei hwyluso.  Mae hyn ar sail y ffaith bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cael y cais  iw ystyried ers 2005 a’r ffaith nad yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ers mis Rhagfyr 2011, bellach yn ystyried cynigion o’r fath oherwydd y posibilrwydd o sefydlu Corff Amgylcheddol Sengl newydd i Gymru.

Prif ddeisebydd: Cymdeithas Gŵyr

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 27 Mawrth 2012

Nifer y deisebwyr: 1 gan sefydliad

Gwybodaeth ategol:Ar 1 Mawrth 2005, ysgrifennodd Cymdeithas Gŵyr (un or grwpiau amwynder lleol hynaf a mwyaf yng Nghymru) at Gyngor Cefn Gwlad Cymru i  ofyn iddo ystyried ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr i ardaloedd yng ngogledd-ddwyrain Penrhyn Gŵyr,  rhannau o Aber y Llwchwr ac Ardal Gadwraeth y Llwchwr, a llawer o ardal tir uchel Mawr.

Ymateb Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru (29.03.05) oedd bod y Cyngor Cefn Gwlad yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i “greu proses a fydd yn llywio unrhyw benderfyniadau ynghylch a ddylid cyflwyno darn o dir fel cynnig ar gyfer dynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bwriedir i’r broses ganlyniadol fod yn hollol drosglwyddadwy i unrhyw ardaloedd eraill yng Nghymru.” Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’n debyg y caiff y cynllun peilot hwn ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2006”.

Mae cyfres o lythyrau wedi dilyn yr ohebiaeth gyntaf hon ac mae amryw o gyfarfodydd wedi’u cynnal yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol rhwng cynrychiolwyr o Gymdeithas Gŵyr a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Cafodd y cyfarfodydd eu trefnu gan – ac roeddent fel arfer yng nghwmni  – Edwina Hart, yr Aelod Cynulliad dros Gŵyr.

Cynhaliwyd dau gyfarfod gyda Ms Jane Davidson pan oedd hi’n Weinidog â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd, ac ar 18.07.11, cyfarfu cynrychiolwyr o Gymdeithas Gŵyr âMr John Griffiths, y Gweinidog (inter alia)  dros yr Amgylchedd.

Ym mhob un o’r tri chyfarfod hyn cafodd y cynnig i ymestyn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ei drafod.

Polisi Dinas a Sir Abertawe yw cefnogi estyniad o’r fath ac mae Cyngor Cymuned Mawr (yr ardal sy’n cael ei heffeithio fwyaf gan y cynnig) wedi mynegi’i gefnogaeth lawn.

Wedi i Orchymyn Dynodi Mynyddoedd Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gael ei gadarnhau gan y Gweinidog ar 22.11.11, fe wnaethom ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru eto, yn ei annog i symud ymlaen â’n cynnig ers 2005 ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr. Roedd ateb y Prif Weithredwr yn nodi cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru or achos dros sefydlu Corff Amgylcheddol Sengl i Gymru. Ar sail y newidiadau pwysig iawn hyn”, meddai “byddwn yn canolbwyntio’n hymdrechion dros y 18 mis nesaf ar  weithio… er mwyn sicrhau pontio esmwyth o Gyngor Cefn Gwlad Cymru i’r Corff Amgylcheddol Sengl”. Felly “Nid ydym mewn sefyllfa i ystyried unrhyw gynigion pellach ar gyfer newid ffiniau na dynodiadau newydd”.

Erbyn hynny, bydd dros wyth mlynedd wedi mynd heibio ers i’n cynnig gael ei roi i Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn y lle cyntaf.  Yn ein barn ni, mae cyfnod mor hir â hyn o oedi yn afresymol, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso’r broses hon.